Amdanom Ni

Tarddiad CAMRA

Yn 1971, cafodd 80% o gwrw ym Mhrydain eu bragu gan saith cwmni - Allied Breweries, Bass, Courage, Grand Metropolitan, Guinness, Scottish & Newcastle ac Whitbread. Cafodd 56% o dafarnau eu perchnogi gan chwech o'r cwmnïau uchod ond Guinness oedd yr eithriad. Roedd cwrw barilan genedlaethol ac Allied's Double Diamond, Bass' Worthington E, Courage's Tavern, Grand Metropolitan's Watneys Red, S & N's Tartan ac Whitbread Tankard yn gorthrymu'r farchnad. Gwerthiannau lager oedd yn ddibwys ond serch hynny roedd cwrw casgen dan ei fygythiad. Yr eithaf, cafodd cwrw casgen eu gweini dan "top-pressure system" ac roeddent bron yn anwahanadwy o'r cwrw barilan.

Yn Fis Mawrth y flwyddyn hynna, teithiodd pedwar dyn o Fanceinion (tri ohonynt yn newyddiadurwyr) gyda'n gilydd i Iwerddon. Yma roedd pethau'n ddrwg. Gan wybod sut roedd yr olygfa cwrw yn y DU yn mynd, gwelodd y pedwar bod Iwerddon fel y dyfodol, ac nid oeddent yn ei hoffi. Pan ddychwelant adref, sefydlant CAMRA neu "Campaign for The Revitalisation of Ale".

Dros y ddwy flwyddyn nesaf, ehangodd CAMRA yn raddol wedi'i helpu gan allu aelodau newyddiadurwr i gynhyrchu penawdau. Cafodd enw CAMRA ei newid i rywbeth mwy syml fel "Campaign for Real Ale" (neu'r Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn yn Gymraeg) a chafodd canghennau lleol eu sefydlu dros y wlad y cyd.

Dechreuad CAMRA Caerdydd

Mae gan CAMRA dros 200 canghennau lleol ond pan gafodd CAMRA Caerdydd ei sefydlu, dim ond llai na ugain oedd yn bodoli. 1973 oedd y flwyddyn ac ar ôl y cyfarfod cyntaf i brofi cefnogaeth, cynhaliwyd y cyfarfod agoriadol ym Mis Hydref yn y Old Arcade yn Stryd yr Eglwys. Nid yw'r ystafell yn bodoli erbyn hyn ond roedd yng nghefn yr adeilad. Roedd y gangen yn ymgyrchu dros Dde Morgannwg a'r Fro Morgannwg yn ogystal â Chaerdydd o'r blaen.

Roedd yr ardal dan reolaeth dau fragdy gyda rhan fwyaf o dafarnau lleol ar y pryd. Un oedd Bass, yn Stryd Crawshay ger yr orsaf ganolog gydag enw "Welsh Brewers". Cynhyrchwyd cwrw Hancocks ac Worthington yna. Yr un arall oedd S A Brain ac roeddent yn bragu yn Heol Eglwys Fair, y "Brewery Quarter" erbyn hyn. Gwerthodd pob un o'r tafarnau Brains ac y rhan fwyaf o dafarnau Welsh Brewers cwrw go iawn. Roedd yr ardal yn eithaf ffrwythlon gyda chwrw go iawn yn hytrach nag ardaloedd eraill. Cafodd Whitbread (ger Pont Trelái yng Ngorllewin Caerdydd) ac Allied Breweries sawl dafarn rhyngddynt ond gwerthwyd llai cwrw go iawn a dyma ni.

Y weithred fwyaf cyntaf y gangen oedd ymuno â gwrthdystiad cenedlaethol yn Stone, Swydd Stafford i wrthdystio erbyn y cynllun Bass i gau'r bragdy Joules. Caeodd y bragdy ond cafodd yr enw ei atgyfodi yn 2010 pan oedd bragdy newydd yn agor yn Market Drayton, dros y ffin yn Swydd Amwythig.

Gweithred bwysig arall oedd dewis tafarnau ar gyfer yr argraffiad masnachol cyntaf y "Good Beer Guide" yn Fawrth 1974. Cafodd y ddinas llawer o dafarnau sydd yn gwerthu cwrw go iawn felly roedd pymtheg tafarn Caerdydd yn y llyfr fel cyfanswm.

Cymraeg